Cymraeg

Croeso i Advocacy Matters Wales (AMW)

Rydym yn elusen gofrestredig sy'n darparu Eiriolaeth Annibynnol ar gyfer oedolion ag Anabledd Dysgu a / neu Amodau Sbectrwm Awtistiaeth.

Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg ac mae'n rhad ac am ddim.

      

Pam bod eiriol dros bobl yn bwysig ......?

Weithiau bydd pobl yn cael trafferth sefyll lan drostyn nhw eu hunain.

Weithiau bydd pobl yn teimlo nad oes neb yn gwrando arnyn nhw.

Gall eiriolwr eich helpu chi i:

  

Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol

Mae eiriolwyr annibynnol yn cefnogi ac yn helpu oedolion sydd ag anableddau dysgu i fynd i'r afael a phroblemau.

Mae eiriolwyr yn gweithio'n annibynnol. Hynny yw, dydyn ni ddim yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaeth Iechyd nac unrhyw wasanaeth arall.

Rydyn ni yma i helpu chi, a mae unrhyw wybodaeth amdanoch chi a'ch achos yn cael ei gadw'n gyfrinachol.

   

Sut mae cael Eiriolwr?

Mae hawl gyda unrhyw un i wneud cais am gymorth eiriolwr.

Os ydych chi'n oedolyn ag anabledd dysgu, mae croeso i chi gysylltu a ni.

Os ydych chi'n nabod oedolyn ag anabledd dysgu, mae croeso i chi gysylltu a ni ar eu rhan

Am fyw o wybodaeth neu i wneud cais, ffoniwch ni ar  029 2023 3733

Neu llenwch ein ffurflen gyfeirio ar-lein ar www.advocacymatterswales.co.uk